Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Mehefin 2018
Amser:
09.04 -
12.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4851
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Kelechi Nnoaham, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Barry Liles, Coleg Sir Gâr Huw Isaac, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg Bethan Jones, Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych Rosemarie Harris, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys Andrew Davies, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Chris Sivers, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Kathryn Peters, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Huw Thomas, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd Dr Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Bethan Sayed AC, Jack Sargeant AC a Rhianon Passmore AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Kelechi Nnoaham, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Strategol, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf
· Barry Liles, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr a Phennaeth Coleg Sir Gâr
· Huw Isaac, Pennaeth Perfformiad a Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg
· Bethan Jones, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i holi am faterion na chafwyd cyfle i’w trafod yn ystod y sesiwn.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Cynghorydd Rosemarie Harris, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys
· Andrew Davies, Is-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
· Chris Sivers, Cyfarwyddwr Lleoedd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
· Kathryn Peters, Rheolwr Polisi Corfforaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili
· Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru
5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth hon, cytunodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i:
· Baratoi nodyn am y modd y mae Canolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn cydweithio â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe;
· Cadarnhau pa mor aml y mae rhwydwaith cymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfarfod.
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw’n Annibynnol Cymru.
6.4.a Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Comisiynydd Pobl Hŷn at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyrdd: Cryfhau Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y tystion i egluro nifer o bwyntiau.